Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 31:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r trydydd mis. A dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:

2. “Ddyn, dywed wrth y Pharo, brenin yr Aifft, a'i bobl i gyd:‘Oes rhywbeth sy'n cymharu â dy fawredd di?

3. Roedd Asyria fel coeden gedrwydd yn Libanus,a'i changhennau hardd fel cysgod y goedwig.Roedd yn aruthrol dal, a'i brigau uchaf yn y cymylau.

4. Y dŵr oedd yn gwneud iddi dyfu,a'r ffynhonnau dwfn yn ei gwneud yn dal.Roedd nentydd yn llifo o'i chwmpas;a sianeli dŵr yn dyfrio'r coed i gyd.

5. Ond roedd y goeden hon yn dalachna'r coed o'i chwmpas i gyd.Canghennau mawr a brigau hirion,a'i gwreiddiau'n lledu at y dŵr.

6. Roedd yr adar i gyd yn nythu yn ei brigau,a'r anifeiliaid gwyllt yn geni rhai bach dan ei changhennau.Roedd y gwledydd mawr i gydyn byw dan ei chysgod.

7. Roedd yn rhyfeddol o hardd,gyda changhennau hirion;a'i gwreiddiau'n ymestyn yn ddwfnat ddigonedd o ddŵr.

8. Doedd coed cedrwydd eraill gardd Duwddim yn cystadlu â hi.Doedd canghennau'r coed pinwyddddim byd tebyg;a'r coed planwydd yn ddimo'u cymharu â hi.Doedd dim un o goed gardd Duwmor hardd â hon!

9. Fi wnaeth hi'n harddgyda'i holl ganghennau.Roedd coed Eden i gyd,coed gardd Duw, yn genfigennus ohoni.

10. “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am ei bod hi mor falch ohoni ei hun, mor aruthrol dal gyda'i brigau uchaf yn y cymylau,

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 31