Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 27:9-27 beibl.net 2015 (BNET)

9. Roedd arweinwyr Gebal ar dy fwrddyn trwsio unrhyw niwed.Roedd y llongau i gyd a'u criwiauyn galw yn dy borthladdoeddi gyfnewid nwyddau.

10. Roedd dynion o wledydd pell –Persia, Lydia a Libia –yn filwyr yn dy fyddin.Yn hongian tarian a helmed ar dy waliau;ac yn rhoi i ti enw gwych.

11. “‘Roedd dynion Arfad a Helech yn gwarchod dy waliau, a dynion Gammad ar y tyrau amddiffynnol. Roedden nhw'n hongian eu cewyll saethau ar dy waliau, a gwneud dy harddwch yn berffaith.

12. “‘Roeddet ti'n masnachu gyda Tarshish bell, ac yn cyfnewid arian, haearn, tin a phlwm am dy nwyddau.

13. Roedd Iafan, Twbal a Meshech yn cyfnewid caethweision a nwyddau pres.

14. Beth-togarma yn cyfnewid ceffylau, meirch a mulod.

15. Roeddet ti'n masnachu gyda phobl Rhodos, a llawer o ynysoedd eraill. Roedden nhw'n talu gydag ifori a choed eboni.

16. Roedd Edom yn delio gyda ti am dy fod yn gwerthu cymaint o bethau gwahanol. Roedden nhw'n talu gyda meini gwerthfawr, defnydd porffor, defnydd wedi ei frodio, lliain main drud, cwrel, a rhuddem.

17. A Jwda a gwlad Israel hefyd, yn cyfnewid gwenith o Minnith, ffigys, mêl, olew olewydd a gwm balm.

18. Roedd Damascus yn delio gyda ti am fod gen ti gymaint o nwyddau ac am dy fod ti mor gyfoethog. Roedden nhw'n dod â gwin o Chelbon, gwlân o Sachar,

19. a casgenni o win o Isal. Haearn bwrw, powdr casia a sbeisiau persawrus hefyd.

20. Roedd Dedan yn cynnig eu carthenni cyfrwy.

21. Arabia a shîcs Cedar yn gwerthu ŵyn, hyrddod a geifr.

22. Masnachwyr Sheba a Raama yn cynnig eu perlysiau gorau, meini gwerthfawr o bob math ac aur.

23. Roedd Haran, Canne ac Eden, a masnachwyr Sheba, Ashŵr a Cilmad yn gwsmeriaid i ti hefyd,

24. yn cynnig dillad costus, defnydd porffor, brodwaith a charpedi amryliw wedi eu clymu a'u plethu'n dynn.

25. Roedd llongau masnach mawr yn cludo dy nwyddau ar draws y moroedd.Roeddet fel llong wedi ei llwytho'n llawn,yng nghanol y moroedd.

26. Ond aeth dy rwyfwyr â tii ganol storm ar y môr mawr!Daeth gwynt y dwyrain i dy ddryllioyng nghanol y moroedd.

27. “‘Mae diwrnod dy ddryllio'n dod, a byddi'n suddo yng nghanol y môr, gyda dy gyfoeth i gyd, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy rwyfwyr, dy grefftwyr, dy fasnachwyr a dy filwyr – pawb sydd ar dy fwrdd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 27