Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 27:25-36 beibl.net 2015 (BNET)

25. Roedd llongau masnach mawr yn cludo dy nwyddau ar draws y moroedd.Roeddet fel llong wedi ei llwytho'n llawn,yng nghanol y moroedd.

26. Ond aeth dy rwyfwyr â tii ganol storm ar y môr mawr!Daeth gwynt y dwyrain i dy ddryllioyng nghanol y moroedd.

27. “‘Mae diwrnod dy ddryllio'n dod, a byddi'n suddo yng nghanol y môr, gyda dy gyfoeth i gyd, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy rwyfwyr, dy grefftwyr, dy fasnachwyr a dy filwyr – pawb sydd ar dy fwrdd.

28. Bydd y morwyr yn gweiddines i gefn gwlad grynu.

29. Bydd rhwyfwyr a morwyryn gadael eu llongaui sefyll ar dir sych.

30. Byddan nhw'n galaru'n uchelac yn crïo'n chwerw;byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennauac yn rholio mewn lludw.

31. Byddan nhw'n siafio eu pennauac yn gwisgo sachliain.Byddan nhw'n wylo'n chwerwwrth alaru ar dy ôl.

32. Yn nadu canu cân o alarar dy ôl:“Pwy oedd fel Tyrus,fel tŵr yng nghanol y môr?”

33. Roedd dy nwyddau'ncael eu dadlwytho o'r moroedd,i gwrdd ag angen pobloedd.Roedd dy gyfoeth mawr a dy nwyddauyn cyfoethogi brenhinoeddi ben draw'r byd!

34. Ond bellach rwyt yn llong wedi ei dryllioyn gorwedd ar waelod y môr.Mae dy nwyddau a'r criw i gydwedi suddo a boddi gyda ti.

35. Mae pobl yr arfordir i gydwedi dychryn yn lân;brenhinoedd yn crynu mewn braw,a'r poen i'w weld ar eu hwynebau.

36. Mae masnachwyr y gwledyddyn chwibanu mewn rhyfeddod arnat.Roedd dy ddiwedd yn erchylla fydd dim sôn eto amdanat.’”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 27