1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2. “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl Tyrus.
3. Dywed wrth Tyrus, sy'n eistedd wrth borthladdoedd, ac yn ganolfan fasnachol bwysig i weddill y byd: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:O Tyrus, rwyt yn brolio mai tiydy harddwch yn ei berffeithrwydd.
4. Gyda dy ffiniau yng nghanol y moroedd,cest dy lunio fel y llong berffaith –
5. dy fyrddau o goed pinwydd Senira dy fast o goed cedrwydd Libanus.
6. Dy rwyfau o goed derw Bashan,a dy gorff yn bren cypres o dde Cyprus,wedi ei addurno ag ifori.
7. Dy hwyl o liain main gorau'r Aifftwedi ei brodio'n batrymau,ac yn faner i bawb dy nabod.Y llen dros y dec yn borffor a phiws;defnydd o lannau Elisha.
8. Arweinwyr Sidon ac Arfadoedd dy rwyfwyr,a dynion medrus Tyrusyn forwyr wrth yr helm.
9. Roedd arweinwyr Gebal ar dy fwrddyn trwsio unrhyw niwed.Roedd y llongau i gyd a'u criwiauyn galw yn dy borthladdoeddi gyfnewid nwyddau.