Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 21:18-32 beibl.net 2015 (BNET)

18. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

19. “Ddyn, dw i eisiau i ti wneud map a marcio dwy ffordd y gallai cleddyf brenin Babilon ddod. Mae'r ddwy ffordd i ddechrau o'r un lle. Yna ble maen nhw'n fforchio dw i eisiau i ti godi arwydd ffordd yn pwyntio at y ddinas –

20. Marcia ddwy ffordd i'r cleddyf fynd – un i Rabba, dinas pobl Ammon, a'r llall i Jerwsalem, y gaer yn Jwda.

21. Mae brenin Babilon wedi stopio ble mae'r ffordd yn fforchio, ac yn ansicr pa ffordd i fynd. Mae'n aros i ddewino: mae'n ysgwyd saethau, yn ceisio arweiniad ei eilun-ddelwau teuluol, ac yn archwilio iau anifeiliaid wedi eu haberthu.

22. Mae'n agor ei law dde, a dyna'r arweiniad – i droi am Jerwsalem. Rhaid paratoi hyrddod rhyfel i fwrw'r giatiau, bloeddio'r gorchymyn i ymosod, a chodi rampiau a thyrau gwarchae.

23. Bydd pobl Jerwsalem yn meddwl ei fod wedi gwneud camgymeriad, am eu bod wedi gwneud cytundeb gyda Babilon. Ond mae'n dangos eu bod nhw'n euog, a byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaeth.

24. “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi ei gwneud hi'n gwbl amlwg eich bod chi'n euog. Dych chi wedi troseddu, a does gynnoch chi ddim cywilydd o'ch pechod. Mae pawb yn ei weld! Felly byddwch yn cael eich cymryd yn gaeth.

25. “‘A tithau, Sedeceia, dywysog llwgr a drwg Israel – mae dy ddiwrnod wedi dod. Ie, dydd barn!

26. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tynna dy goron oddi ar dy ben! Mae pethau'n mynd i newid! Codi'r rhai sy'n ‛neb‛, a thorri crib y balch!

27. Adfeilion! Adfeilion! Bydd y lle'n adfeilion llwyr! Fydd dim yn newid nes i'r un dw i wedi rhoi iddo'r hawl i farnu ddod. Bydda i'n ei rhoi iddo fe.’”

28. “Ond yna, ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud am gosb pobl Ammon:Cleddyf! Cleddyf,yn cael ei chwifio i ladd.Wedi ei sgleinio i ddifa,ac yn fflachio fel mellten.

29. “‘Mae gweledigaethau dy broffwydi'n ffug, a'r arweiniad trwy ddewino yn gelwydd! Mae'r cleddyf ar yddfau pobl lwgr a drwg. Ydy, mae eich diwrnod wedi dod. Ie, dydd barn!

30. “‘Fydd y cleddyf ddim yn ôl yn ei wain nes i mi eich barnu chi yn y wlad lle cawsoch eich geni.

31. Dw i'n mynd i dywallt fy llid arnoch chi, a'ch ffrwydro gyda tân fy ffyrnigrwydd. Bydda i'n eich rhoi chi yn nwylo dynion gwyllt sy'n gwybod sut i ddinistrio.

32. Byddwch yn danwydd i'r tân. Bydd eich gwaed wedi ei dywallt ar y tir. Fydd neb yn eich cofio. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 21