Mae brenin Babilon wedi stopio ble mae'r ffordd yn fforchio, ac yn ansicr pa ffordd i fynd. Mae'n aros i ddewino: mae'n ysgwyd saethau, yn ceisio arweiniad ei eilun-ddelwau teuluol, ac yn archwilio iau anifeiliaid wedi eu haberthu.