18. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
19. “Ddyn, dw i eisiau i ti wneud map a marcio dwy ffordd y gallai cleddyf brenin Babilon ddod. Mae'r ddwy ffordd i ddechrau o'r un lle. Yna ble maen nhw'n fforchio dw i eisiau i ti godi arwydd ffordd yn pwyntio at y ddinas –
20. Marcia ddwy ffordd i'r cleddyf fynd – un i Rabba, dinas pobl Ammon, a'r llall i Jerwsalem, y gaer yn Jwda.
21. Mae brenin Babilon wedi stopio ble mae'r ffordd yn fforchio, ac yn ansicr pa ffordd i fynd. Mae'n aros i ddewino: mae'n ysgwyd saethau, yn ceisio arweiniad ei eilun-ddelwau teuluol, ac yn archwilio iau anifeiliaid wedi eu haberthu.
22. Mae'n agor ei law dde, a dyna'r arweiniad – i droi am Jerwsalem. Rhaid paratoi hyrddod rhyfel i fwrw'r giatiau, bloeddio'r gorchymyn i ymosod, a chodi rampiau a thyrau gwarchae.
23. Bydd pobl Jerwsalem yn meddwl ei fod wedi gwneud camgymeriad, am eu bod wedi gwneud cytundeb gyda Babilon. Ond mae'n dangos eu bod nhw'n euog, a byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaeth.
24. “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi ei gwneud hi'n gwbl amlwg eich bod chi'n euog. Dych chi wedi troseddu, a does gynnoch chi ddim cywilydd o'ch pechod. Mae pawb yn ei weld! Felly byddwch yn cael eich cymryd yn gaeth.