Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 20:28-37 beibl.net 2015 (BNET)

28. Roedden nhw wedi cael dod i'r wlad roeddwn i wedi ei haddo iddyn nhw. Ond y funud roedden nhw'n dod ar draws bryn uchel neu goeden ddeiliog, roedden nhw'n aberthu ac yn cyflwyno offrymau oedd yn fy nigio i. Roedden nhw'n llosgi arogldarth i'w duwiau ac yn tywallt offrymau o ddiod iddyn nhw.

29. A dyma fi'n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy'r allor baganaidd yma dych chi'n heidio ati?”’” (Dyna pam mae'r lle'n cael ei alw "Yr Allor" hyd heddiw.)

30. “Felly, dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Chithau hefyd? Ydych chi'n mynd i lygru'ch hunain fel gwnaeth eich hynafiaid? Ydych chi'n mynd i buteinio drwy addoli eilun-dduwiau ffiaidd?

31. Bob tro dych chi'n cyflwyno rhoddion i'ch duwiau a llosgi'ch plentyn cyntaf yn aberth, dych chi'n llygru'ch hunain. Ydw i'n mynd i adael i chi ofyn am arweiniad gen i, bobl Israel? Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, gewch chi ddim arweiniad gen i!’”

32. “‘“Dŷn ni'n mynd i fod yr un fath â pawb arall,” meddech chi. “Fel pobl y gwledydd o'n cwmpas ni sy'n addoli duwiau o bren a charreg.” Ond fydd hynny byth yn digwydd.

33. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘Fi fydd yn frenin arnoch chi, a bydda i'n tywallt fy llid, ac yn teyrnasu gyda nerth a chryfder rhyfeddol.

34. Bydda i'n dod â chi allan o ganol y bobloedd, ac yn eich casglu chi o'r gwledydd lle dych chi wedi eich gwasgaru. Ie, bydda i'n tywallt fy llid gyda nerth a chryfder rhyfeddol.

35. Bydda i'n dod â chi allan i anialwch y cenhedloedd, a bydd rhaid i chi wynebu cael eich barnu yno.

36. Yn union fel roedd rhaid i mi farnu eich hynafiaid yn anialwch yr Aifft, bydda i'n eich barnu chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

37. ‘Bydda i'n edrych ar bob un ohonoch chi yn ei dro wrth i chi basio dan fy ffon fugail, ac yn eich dal chi at amodau'r ymrwymiad rhyngon ni.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 20