Roedden nhw wedi cael dod i'r wlad roeddwn i wedi ei haddo iddyn nhw. Ond y funud roedden nhw'n dod ar draws bryn uchel neu goeden ddeiliog, roedden nhw'n aberthu ac yn cyflwyno offrymau oedd yn fy nigio i. Roedden nhw'n llosgi arogldarth i'w duwiau ac yn tywallt offrymau o ddiod iddyn nhw.