Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 14:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma rai o arweinwyr Israel yn dod ata i, ac yn eistedd o'm blaen i.

2. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

3. “Ddyn, mae'r dynion yma wedi troi at eilunod. Maen nhw wedi rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu. Pam ddylwn i adael iddyn nhw ofyn unrhyw beth i mi?

4. Felly dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Os ydy unrhyw un yn Israel yn troi at eilunod, a rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu, a wedyn yn dod at broffwyd i geisio arweiniad, bydda i, yr ARGLWYDD, yn rhoi iddyn nhw'r ateb maen nhw a'i heilunod yn ei haeddu!

5. Bydda i'n gwneud hyn i'w galw nhw i gyfri, am eu bod nhw wedi pellhau oddi wrtho i a mynd ar ôl eu heilunod i gyd.’

6. “Felly dw i am i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Trowch yn ôl ata i! Dw i eisiau i chi droi cefn ar eich eilunod, a stopio gwneud y pethau ffiaidd dych chi wedi bod yn eu gwneud.

7. Os ydy unrhyw un yn Israel (hyd yn oed mewnfudwyr sy'n byw yn y wlad) yn troi cefn arna i, mynd ar ôl eilunod a rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu, ac wedyn yn mynd at broffwyd i geisio arweiniad, bydda i, yr ARGLWYDD, yn rhoi iddyn nhw'r ateb maen nhw'n ei haeddu!

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 14