Os ydy unrhyw un yn Israel (hyd yn oed mewnfudwyr sy'n byw yn y wlad) yn troi cefn arna i, mynd ar ôl eilunod a rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu, ac wedyn yn mynd at broffwyd i geisio arweiniad, bydda i, yr ARGLWYDD, yn rhoi iddyn nhw'r ateb maen nhw'n ei haeddu!