24. Doedd y moroedd ddim yno pan gyrhaeddais i,a doedd dim ffynhonnau yn llawn dŵr.
25. Doedd y mynyddoedd ddim wedi eu gosod yn eu lle,a doedd y bryniau ddim yn bodoli.
26. Doedd y ddaear a chefn gwlad ddim yna,na hyd yn oed y talpiau cyntaf o bridd.
27. Roeddwn i yno pan roddodd Duw y bydysawd yn ei le;a phan farciodd y gorwel ar wyneb y moroedd.
28. Pan roddodd y cymylau yn yr awyr,a pan wnaeth i'r ffynhonnau ddechrau tasgu dŵr.
29. Pan osododd ffiniau i'r môr,fel bod y dŵr ddim yn anufudd iddo;a pan osododd sylfeini'r ddaear.
30. Roeddwn i yno fel crefftwr,yn rhoi pleser pur iddo bob dydd,wrth ddawnsio a dathlu'n ddi-stop o'i flaen.
31. Roeddwn i'n dawnsio ar wyneb y ddaear,ac roedd y ddynoliaeth yn rhoi pleser pur i mi.
32. Nawr, blant, gwrandwch arna i;Mae'r rhai sy'n gwneud beth dw i'n ddweud mor hapus.
33. Gwrandwch ar beth dw i'n ddweud a byddwch ddoeth;peidiwch troi cefn arno.
34. Mae'r rhai sy'n gwrando arna i yn derbyn y fath fendith,maen nhw'n gwylio amdana i wrth y drws bob dydd,yn disgwyl i mi ddod allan.
35. Mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn cael bywyd;mae'r ARGLWYDD yn dda atyn nhw.