Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 8:21-30 beibl.net 2015 (BNET)

21. Dw i'n rhoi etifeddiaeth gyfoethog i'r rhai sy'n fy ngharu;ac yn llenwi eu trysordai nhw.

22. Roedd yr ARGLWYDD wedi fy ngeni icyn iddo wneud dim byd arall.

23. Ces fy apwyntio yn bell, bell yn ôl,ar y dechrau cyntaf, cyn i'r ddaear fodoli.

24. Doedd y moroedd ddim yno pan gyrhaeddais i,a doedd dim ffynhonnau yn llawn dŵr.

25. Doedd y mynyddoedd ddim wedi eu gosod yn eu lle,a doedd y bryniau ddim yn bodoli.

26. Doedd y ddaear a chefn gwlad ddim yna,na hyd yn oed y talpiau cyntaf o bridd.

27. Roeddwn i yno pan roddodd Duw y bydysawd yn ei le;a phan farciodd y gorwel ar wyneb y moroedd.

28. Pan roddodd y cymylau yn yr awyr,a pan wnaeth i'r ffynhonnau ddechrau tasgu dŵr.

29. Pan osododd ffiniau i'r môr,fel bod y dŵr ddim yn anufudd iddo;a pan osododd sylfeini'r ddaear.

30. Roeddwn i yno fel crefftwr,yn rhoi pleser pur iddo bob dydd,wrth ddawnsio a dathlu'n ddi-stop o'i flaen.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 8