1. Mae doethineb yn galw,a deall yn codi ei llais.
2. Mae hi'n sefyll ar fannau uchaf y dref,wrth ymyl y croesffyrdd,
3. ac wrth ymyl giatiau'r ddinas.Mae hi'n gweiddi wrth y fynedfa,
4. “Dw i'n galw arnoch chi i gyd, bobl!Dw i'n galw ar y ddynoliaeth gyfan.
5. Chi rai gwirion, dysgwch sut mae bod yn gall;chi bobl ddwl, dysgwch chithau rywbeth.
6. Gwrandwch, achos mae gen i bethau gwych i'w dweud;dw i am ddweud beth sy'n iawn wrthoch chi.
7. Dw i bob amser yn dweud y gwir;mae'n gas gen i gelwydd.
8. Mae pob gair dw i'n ddweud yn iawn,does dim twyll, dim celwydd.
9. Mae'r peth yn amlwg i unrhyw un sy'n gall,ac mae unrhyw un craff yn gweld eu bod yn iawn.
10. Cymer beth dw i'n ei ddysgu, mae'n well nag arian;ac mae'r arweiniad dw i'n ei roi yn well na'r aur gorau.”
11. Ydy, mae doethineb yn well na gemau gwerthfawr;does dim byd tebyg iddi.
12. “Dw i, Doethineb, yn byw gyda callineb;fi sy'n dangos y ffordd iawn i bobl.