4. Dywed wrth ddoethineb, “Ti fel chwaer i mi,”a gwna gyngor doeth yn ffrind gorau.
5. Bydd yn dy warchod di rhag y wraig anfoesol;rhag yr un llac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg.
6. Roeddwn i'n sefyll yn y tŷ,ac yn edrych allan o'r ffenest.
7. Gwelais fachgen ifanc a dim sens ganddogyda chriw gwyllt o bobl ifanc.
8. Roedd yn croesi'r stryd at y groesfforddsy'n arwain at ei thŷ hi.
9. Roedd hi'n hwyr yn y dydd,ac yn dechrau nosi a thywyllu.
10. Yn sydyn dyma'r wraig yn dod allan i'w gyfarfod,wedi ei gwisgo fel putain – roedd ei bwriad hi'n amlwg.
11. (Dynes swnllyd, ddigywilydd,sydd byth yn aros adre.
12. Ar y stryd un funud, ar y sgwâr y funud nesa,yn loetran ar bob cornel.)
13. Mae hi'n gafael yn y bachgen a'i gusanu,ac yn dweud yn bowld:
14. “Tyrd, mae gen i fwyd adre – cig yr offrwm rois i;dw i wedi gwneud popeth oedd ei angen.
15. A dyma fi, wedi dod allan i dy gyfarfod di –roeddwn i'n edrych amdanat ti, a dyma ti!
16. Dw i wedi paratoi'r gwely!Mae yna gynfasau glân arno,a chwilt lliwgar hyfryd o'r Aifft.
17. Mae'n arogli'n hyfryd o bersawr –myrr, aloes, a sinamon.
18. Tyrd, gad i ni ymgolli mewn pleserau rhywiol;mwynhau ein hunain yn caru drwy'r nos.