14. “Tyrd, mae gen i fwyd adre – cig yr offrwm rois i;dw i wedi gwneud popeth oedd ei angen.
15. A dyma fi, wedi dod allan i dy gyfarfod di –roeddwn i'n edrych amdanat ti, a dyma ti!
16. Dw i wedi paratoi'r gwely!Mae yna gynfasau glân arno,a chwilt lliwgar hyfryd o'r Aifft.
17. Mae'n arogli'n hyfryd o bersawr –myrr, aloes, a sinamon.
18. Tyrd, gad i ni ymgolli mewn pleserau rhywiol;mwynhau ein hunain yn caru drwy'r nos.
19. Dydy'r gŵr ddim adre –mae e wedi mynd ar daith bell.
20. Mae e wedi mynd gyda'i arian, ar fusnes,a fydd e ddim yn ôl tan ddiwedd y mis.”
21. Dyma hi'n llwyddo i'w berswadio;roedd wedi ei ddenu gyda'i fflyrtian.
22. Dyma'r llanc yn mynd ar ei hôl ar unwaith,fel ych yn mynd i'r lladd-dy,neu garw yn neidio i drap
23. cyn i saeth ei drywanu!Roedd fel aderyn wedi hedfan yn syth i'r rhwyd,heb sylweddoli ei fod yn mynd i golli ei fywyd.
24. Nawr gwrandwch arna i, fechgyn;gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud:
25. Peidiwch hyd yn oed meddwl amdani;peidiwch mynd yn agos ati.