Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 6:2-16 beibl.net 2015 (BNET)

2. Os wyt mewn picil, wedi dy ddal gan dy eiriauac wedi dy rwymo gan beth ddwedaist ti,

3. dyma ddylet ti ei wneud i ryddhau dy hun(achos rwyt ti wedi chwarae i ddwylo'r person arall):Dos ato i bledio am gael dy ryddhau. Dos, a'i blagio!

4. Paid oedi! – Dim cwsg na gorffwysnes bydd y mater wedi ei setlo.

5. Achub dy hun, fel carw yn dianc rhag yr heliwr,neu aderyn yn dianc o law'r adarwr.

6. Ti'r diogyn, edrych ar y morgrugyn;astudia ei ffyrdd, a dysga sut i fod yn ddoeth.

7. Does ganddo ddim arweinydd,swyddog, na rheolwr,

8. ac eto mae'n mynd ati i gasglu bwyd yn yr haf,a storio'r hyn sydd arno'i angen adeg y cynhaeaf.

9. Am faint wyt ti'n mynd i orweddian yn dy wely, y diogyn?Pryd wyt ti'n mynd i ddeffro a gwneud rhywbeth?

10. “Ychydig bach mwy o gwsg,pum munud arall!Swatio'n gyfforddus yn y gwely am ychydig.”

11. Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon;bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog!

12. Dydy'r un sy'n mynd o gwmpas yn twyllo,yn ddim byd ond cnaf drwg!

13. Mae'n wincio ar bobl drwy'r adeg,mae ei draed yn aflonydd,ac mae'n pwyntio bys at bawb.

14. Ei unig fwriad ydy creu helynt!Mae o hyd eisiau dechrau ffrae.

15. Bydd trychineb annisgwyl yn ei daro!Yn sydyn bydd yn torri, a fydd dim gwella arno!

16. Dyma chwe peth mae'r ARGLWYDD yn eu casáu;ac un arall sy'n ffiaidd ganddo:

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 6