Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 6:11-28 beibl.net 2015 (BNET)

11. Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon;bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog!

12. Dydy'r un sy'n mynd o gwmpas yn twyllo,yn ddim byd ond cnaf drwg!

13. Mae'n wincio ar bobl drwy'r adeg,mae ei draed yn aflonydd,ac mae'n pwyntio bys at bawb.

14. Ei unig fwriad ydy creu helynt!Mae o hyd eisiau dechrau ffrae.

15. Bydd trychineb annisgwyl yn ei daro!Yn sydyn bydd yn torri, a fydd dim gwella arno!

16. Dyma chwe peth mae'r ARGLWYDD yn eu casáu;ac un arall sy'n ffiaidd ganddo:

17. llygaid balch, tafod celwyddog,dwylo sy'n tywallt gwaed pobl ddiniwed,

18. calon sy'n cynllwynio drwg,traed sy'n brysio i wneud drwg,

19. tyst sy'n dweud celwydd,a rhywun sy'n dechrau ffrae mewn teulu.

20. Fy mab, gwna beth orchmynodd dy dad i ti;paid troi dy gefn ar beth ddysgodd dy fam i ti.

21. Cadw nhw ar flaen dy feddwl bob amser;gwisga nhw fel cadwyn am dy wddf.

22. Ble bynnag fyddi di'n mynd, byddan nhw'n dy arwain di;pan fyddi'n gorwedd i orffwys, byddan nhw'n edrych ar dy ôl di;pan fyddi di'n deffro, byddan nhw'n rhoi cyngor i ti.

23. Mae gorchymyn fel lamp,a dysgeidiaeth fel golau,ac mae cerydd a disgyblaeth yn arwain i fywyd.

24. Bydd yn dy gadw rhag y ferch ddrwg,a rhag y wraig anfoesol.

25. Paid gadael i'r awydd i'w chael hi afael ynot ti,na gadael iddi hi dy drapio di drwy fflyrtian â'i llygaid.

26. Mae putain yn dy adael gyda dim ond torth o fara;ond mae gwraig dyn arall yn cymryd popeth – gall gostio dy fywyd!

27. Ydy dyn yn gallu cario marwor poeth yn ei bocedheb losgi ei ddillad?

28. Ydy dyn yn gallu cerdded ar farworheb losgi ei draed?

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 6