24. Bydd barnwr sy'n gollwng yr euog yn rhyddyn cael ei felltithio gan bobl,a'i gondemnio gan wledydd;
25. Ond bydd bywyd yn braf i'r un sy'n barnu'n deg;bydd e'n cael ei fendithio'n fawr.
26. Mae rhoi ateb gonestfel cusan ar y gwefusau.
27. Rho drefn ar dy waith tu allan,a chael y caeau'n barod i'w plannu,ac wedyn mynd ati i adeiladu dy dŷ.
28. Paid rhoi tystiolaeth yn erbyn rhywun heb achos da;a paid camarwain pobl.
29. Paid dweud, “Dw i'n mynd i dalu'r pwyth yn ôl!Bydda i'n dial arno am beth wnaeth e.”
30. Roeddwn i'n pasio heibio cae y dyn diog,a gwinllan un sydd heb sens;
31. Roedd drain wedi tyfu drosto,a chwyn ym mhobman,a'r wal gerrig o'i gwmpas wedi syrthio.
32. Wrth edrych a meddwl am y peth,roedd beth welais i yn dysgu gwers i mi:
33. “Ychydig bach mwy o gwsg;pum munud arall!Swatio'n gyfforddus yn y gwely am ychydig.”
34. Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon;bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog.