12. Os byddi di'n dweud, “Ond doedden ni'n gwybod dim am y peth,”cofia fod yr Un sy'n pwyso'r galon yn gweld y gwir!Mae Duw yn dy wylio di, ac mae e'n gwybod;a bydd pawb yn cael beth maen nhw'n ei haeddu.
13. Fy mab, bwyta fêl – mae'n dda i ti;ac mae diliau mêl yn felys yn dy geg.
14. A'r un modd mae doethineb yn dda i ti.Os wyt ti'n ddoeth, byddi'n iawn yn y diwedd;a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.
15. Paid llechu fel lleidr tu allan i gartre dyn da;a paid torri i mewn i'w dŷ.
16. Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro,ond byddan nhw'n codi ar eu traed;tra mae un anffawd yn ddigon i fwrw pobl ddrwg i lawr.
17. Paid dathlu pan mae dy elyn yn syrthio;paid bod yn falch os ydy e'n cael ei fwrw i lawr,
18. rhag i'r ARGLWYDD weld y peth, a bod yn flin hefo ti;wedyn bydd e'n arbed y gelyn rhag y gosb.
19. Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo;paid bod yn genfigennus ohonyn nhw –
20. does dim dyfodol iddyn nhw.Mae'r person drwg fel lamp sy'n diffodd.
21. Fy mab, dylet ti barchu'r ARGLWYDD a'r brenin,a pheidio cadw cwmni'r rhai sy'n gwrthryfela.