Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 21:5-18 beibl.net 2015 (BNET)

5. Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled;ond dydy brys gwyllt ond yn arwain i dlodi.

6. Mae ffortiwn wedi ei ennill drwy ddweud celwyddfel tarth sy'n diflannu – magl i farwolaeth.

7. Mae pobl ddrwg yn cael eu llusgo i ffwrdd gan eu trais,maen nhw'n gwrthod gwneud beth sy'n iawn.

8. Mae pobl yn gallu bod yn dwyllodrus ac yn rhyfedd,ond mae'r sawl sy'n bur yn gwneud beth sy'n iawn.

9. Mae byw mewn cornel yn yr atigyn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.

10. Mae person drwg yn ysu am gael gwneud drwg,ac yn dangos dim trugaredd at bobl eraill.

11. Pan mae'r gwawdiwr yn cael ei gosbi mae'r gwirion yn dysgu gwers;ond mae'r person doeth yn dysgu wrth wrando.

12. Mae'r Duw cyfiawn yn gweld cartrefi pobl ddrwg;bydd yn dod â dinistr arnyn nhw.

13. Os ydy rhywun yn gwrthod gwrando ar gri'r tlawd,bydd e'n gweiddi hefyd, a fydd neb yn ei ateb.

14. Mae rhodd cyfrinachol yn tawelu llid,a cildwrn yn tewi'r un sydd wedi colli ei dymer.

15. Mae'r rhai cyfiawn wrth eu bodd yn gwneud beth sy'n iawn,ond mae'n ddychryn i bobl ddrwg.

16. Bydd pwy bynnag sy'n crwydro oddi ar y llwybr iawnyn cael ei hun yn gorffwys gyda'r ysbrydion.

17. Bydd y sawl sydd ond eisiau bywyd o bleser yn cael ei hun yn dlawd;dydy gwin a bywyd moethus ddim yn gwneud rhywun yn gyfoethog.

18. Bydd y drwg yn talu'r pris yn lle'r cyfiawn;a'r twyllwr yn diodde yn lle'r un sy'n onest.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 21