Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 21:16-29 beibl.net 2015 (BNET)

16. Bydd pwy bynnag sy'n crwydro oddi ar y llwybr iawnyn cael ei hun yn gorffwys gyda'r ysbrydion.

17. Bydd y sawl sydd ond eisiau bywyd o bleser yn cael ei hun yn dlawd;dydy gwin a bywyd moethus ddim yn gwneud rhywun yn gyfoethog.

18. Bydd y drwg yn talu'r pris yn lle'r cyfiawn;a'r twyllwr yn diodde yn lle'r un sy'n onest.

19. Mae'n well byw mewn tir anialna gorfod diodde gwraig gecrus a blin.

20. Mae'r person doeth yn cynilo,ond mae person ffôl yn gwario'r cwbl sydd ganddo.

21. Mae'r un sy'n ceisio gwneud beth sy'n iawn a bod yn garedigyn cael bywyd, llwyddiant ac enw da.

22. Mae dyn doeth yn gallu concro dinas sydd â byddin bwerusa bwrw i lawr y gaer oedden nhw'n teimlo'n saff ynddi.

23. Mae'r person sy'n gwylio beth mae'n ei ddweud ac yn ffrwyno'i dafodyn cadw ei hun allan o drafferthion.

24. Mae'r person balch, haerllug– yr un sy'n gwawdio pobl eraill –yn gwneud pethau cwbl ddigywilydd.

25. Mae blys person diog yn ddigon i'w ladd,am ei fod yn gwrthod gweithio â'i ddwylo.

26. Mae'n dyheu ac yn ysu am fwy drwy'r adeg,tra mae'r person cyfiawn yn rhoi yn ddi-baid.

27. Mae'n gas gan Dduw aberth sy'n cael ei gyflwyno gan rywun drwg,yn enwedig os ydy ei fwriad wrth ddod ag e yn ddrwg.

28. Mae tyst celwyddog yn cael ei dewi;y tyst oedd wedi gwrando sy'n cael y gair ola.

29. Mae person drwg yn smalio ac yn bwrw yn ei flaen;ond mae'r person gonest yn meddwl ble mae'n mynd.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 21