Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 7:17-25 beibl.net 2015 (BNET)

17. Falle dy fod yn gofyn, ‘Sut ydyn ni'n mynd i lwyddo i gymryd tir y bobloedd yma? – mae mwy ohonyn nhw nag sydd ohonon ni!’

18. Peidiwch poeni! Cofiwch beth wnaeth yr ARGLWYDD i'r Pharo ac i wlad yr Aifft.

19. Defnyddiodd ei rym a'i nerth, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol i ddod â chi allan o'r Aifft. A bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud yr un fath eto i'r bobl yma dych chi'n eu hofni.

20. Bydd e'n achosi panig llwyr yn eu plith nhw. Bydd rhai yn ceisio cuddio oddi wrthoch chi, ond byddan nhw i gyd yn cael eu lladd yn y diwedd.

21. “Peidiwch bod ag ofn. Mae'r ARGLWYDD eich Duw gyda chi, ac mae e'n Dduw mawr a rhyfeddol.

22. Bydd e, y Duw sy'n eich arwain chi, yn eu gyrru nhw i ffwrdd o dipyn i beth. Fydd e ddim yn gadael i chi gael gwared â nhw i gyd ar unwaith, neu fyddai dim digon o bobl yna i gadw niferoedd yr anifeiliaid gwylltion i lawr.

23. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich galluogi chi i'w concro nhw. Bydd e'n achosi iddyn nhw banicio, nes byddan nhw i gyd wedi eu lladd.

24. Byddwch chi'n dal eu brenhinoedd nhw, ac yn eu lladd. Fydd neb yn cofio eu bod nhw wedi byw erioed!

25. Llosgwch y delwau o'u duwiau nhw. Peidiwch hyd yn oed cadw'r aur sy'n eu gorchuddio nhw, rhag i chi gael eich trapio ganddo. Mae'r pethau yma yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD eich Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 7