Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 7:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Bydd yr ARGLWYDD yn eich helpu chi i gymryd y tir oddi ar saith grŵp o bobl sy'n gryfach na chi – yr Hethiaid, Girgasiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a'r Jebwsiaid. Bydd e'n eu gyrru nhw i gyd allan o'ch blaen chi.

2. Bydd e'n rhoi'r gallu i chi eu concro nhw, ac mae'n rhaid i chi eu dinistrio nhw'n llwyr. Peidiwch gwneud cytundeb heddwch gyda nhw, a peidiwch dangos unrhyw drugaredd.

3. Peidiwch gadael i'ch plant eu priodi nhw,

4. rhag i'ch plant droi cefn ar yr ARGLWYDD, ac addoli duwiau eraill. Wedyn byddai'r ARGLWYDD yn gwylltio gyda chi, ac yn eich dinistrio chi'n llwyr!

5. Na, rhaid i chi chwalu eu hallorau paganaidd nhw, malu'r colofnau cysegredig, torri polion y dduwies Ashera i lawr, a llosgi eu delwau nhw.

6. Dych chi'n bobl sydd wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae wedi eich dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun.

7. Wnaeth e ddim eich dewis chi am fod mwy ohonoch chi na'r bobloedd eraill i gyd – roedd llai ohonoch chi os rhywbeth!

8. Na, dewisodd yr ARGLWYDD chi am ei fod wedi'ch caru chi, ac am gadw'r addewid wnaeth e i'ch hynafiaid chi. Dyna pam wnaeth e ddefnyddio'i rym i'ch gollwng chi'n rhydd o fod yn gaethweision i'r Pharo, brenin yr Aifft.

9. Felly peidiwch anghofio mai'r ARGLWYDD eich Duw chi ydy'r unig dduw go iawn. Mae e'n Dduw ffyddlon, a bydd e bob amser yn cadw'r ymrwymiad mae wedi ei wneud i'r rhai sy'n ei garu ac yn gwneud beth mae e'n ddweud.

10. Ond mae'n talu'n ôl i'r bobl hynny sy'n ei gasáu, drwy roi iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu.

11. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 7