Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 4:11-23 beibl.net 2015 (BNET)

11. “Dyma chi'n dod i sefyll wrth droed y mynydd oedd yn llosgi'n dân. Roedd fflamau yn codi i fyny i'r awyr, a chymylau o fwg tywyll, trwchus.

12. Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân. Roeddech chi'n clywed y llais yn siarad, ond yn gweld neb na dim.

13. A dyma fe'n dweud wrthoch chi beth oedd yr ymrwymiad roedd e am i chi ei wneud – y Deg Gorchymyn. A dyma fe'n eu hysgrifennu nhw ar ddwy lechen garreg.

14. Dyna hefyd pryd wnaeth yr ARGLWYDD orchymyn i mi ddysgu rheolau a canllawiau eraill i chi eu dilyn yn y wlad dych chi'n mynd drosodd i'w chymryd.

15. Ond byddwch yn ofalus! Wnaethoch chi ddim gweld neb pan oedd yr ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân ar Fynydd Sinai.

16. Felly peidiwch sbwylio popeth drwy gerfio rhyw fath o ddelw – o ddyn neu ferch,

17. anifail, aderyn,

18. ymlusgiad, neu bysgodyn.

19. Wrth edrych i'r awyr ar yr haul, y lleuad a'r sêr i gyd, peidiwch cael eich temtio i'w haddoli nhw. Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi nhw i bawb drwy'r byd i gyd.

20. Ond mae wedi eich dewis chi, a'ch arwain chi allan o ffwrnais haearn gwlad yr Aifft, i fod yn bobl sbesial iddo – a dyna ydych chi!

21. “Ond wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio hefo fi o'ch achos chi. Dwedodd wrtho i na fyddwn i byth yn cael croesi'r Afon Iorddonen a mynd i mewn i'r wlad dda mae e ar fin ei rhoi i chi.

22. Dyma ble bydda i'n marw. Ond dych chi'n mynd i groesi'r Iorddonen a chymryd y tir da yna.

23. Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi ei wneud gyda chi. Peidiwch cerfio delw o unrhyw fath – mae e wedi dweud yn glir na ddylech chi wneud peth felly.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 4