Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 3:7-19 beibl.net 2015 (BNET)

7. Ond dyma ni'n cadw'r anifeiliaid ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr.

8. “Dyna pryd gwnaethon ni gymryd tir dau frenin yr Amoriaid, yr ochr draw i'r Iorddonen – o Geunant Arnon yn y de yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd.

9. (Sirion ydy enw pobl Sidon ar Hermon, ac mae'r Amoriaid yn ei alw yn Senir.)

10. Roedden ni wedi concro trefi'r byrdd-dir, Gilead i gyd a Bashan yr holl ffordd i drefi Salca ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og.

11. (Og, brenin Bashan, oedd yr unig un o'r Reffaiaid oedd yn dal ar ôl. Roedd ei arch yn bedwar metr o hyd, a bron dau fetr o led, ac wedi ei gwneud o garreg basalt du. Gellir ei gweld yn Rabba, prif dref yr Ammoniaid.)

12. “Felly dyma'r tir wnaethon ni ei gymryd i'r dwyrain o Afon Iorddonen. Dyma fi'n rhoi'r tir sydd i'r gogledd o Aroer, ar ymyl Ceunant Arnon, a hanner bryniau Gilead i lwythau Reuben a Gad.

13. Wedyn dyma fi'n rhoi gweddill Gilead a teyrnas Og, sef Bashan, i hanner llwyth Manasse. (Roedd ardal Argob i gyd, sef Bashan, yn arfer cael ei alw yn Wlad y Reffaiaid.

14. Dyma Jair o lwyth Manasse, yn cymryd ardal Argob, sef Bashan. Mae'r ardal yn ymestyn at y ffin gyda Geshwr a Maacha. Rhoddodd ei enw ei hun ar yr ardal – Hafoth-jair – a dyna'r enw ar yr ardal hyd heddiw.)

15. “Dyma fi'n rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir, mab Manasse.

16. “Yna i lwythau Reuben a Gad dyma fi'n rhoi'r tir sy'n ymestyn o Gilead i Geunant Arnon (Ceunant Arnon oedd y ffin), ac ymlaen at Wadi Jabboc a ffin Ammon.

17. “Y ffin i'r gorllewin oedd Afon Iorddonen, o Lyn Galilea i lawr i'r Môr Marw gyda llethrau Pisga i'r dwyrain.

18. Bryd hynny dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi'r tir yma i chi. Ond rhaid i'ch milwyr chi groesi o flaen gweddill pobl Israel, yn barod i ymladd.

19. Bydd eich gwragedd a'ch plant, yn cael aros yn y trefi dw i wedi eu rhoi i chi. A'r holl anifeiliaid sydd gynnoch chi hefyd (mae gynnoch chi lawer iawn o wartheg).

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 3