Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 3:3-17 beibl.net 2015 (BNET)

3. “A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Dyma ni'n taro Og, brenin Bashan a'i fyddin i gyd – cawson nhw i gyd eu lladd.

4. Dyma ni'n concro pob un o'i drefi – chwe deg ohonyn nhw – i gyd yn ardal Argob.

5. Roedden nhw i gyd yn gaerau amddiffynnol gyda waliau uchel a giatiau dwbl gyda barrau i'w cloi. Ac roedd llawer iawn o bentrefi agored hefyd.

6. Dyma ni'n gwneud yn union yr un fath ag a wnaethon ni i drefi Sihon, brenin Cheshbon – eu dinistrio nhw i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, hyd yn oed gwragedd a phlant.

7. Ond dyma ni'n cadw'r anifeiliaid ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr.

8. “Dyna pryd gwnaethon ni gymryd tir dau frenin yr Amoriaid, yr ochr draw i'r Iorddonen – o Geunant Arnon yn y de yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd.

9. (Sirion ydy enw pobl Sidon ar Hermon, ac mae'r Amoriaid yn ei alw yn Senir.)

10. Roedden ni wedi concro trefi'r byrdd-dir, Gilead i gyd a Bashan yr holl ffordd i drefi Salca ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og.

11. (Og, brenin Bashan, oedd yr unig un o'r Reffaiaid oedd yn dal ar ôl. Roedd ei arch yn bedwar metr o hyd, a bron dau fetr o led, ac wedi ei gwneud o garreg basalt du. Gellir ei gweld yn Rabba, prif dref yr Ammoniaid.)

12. “Felly dyma'r tir wnaethon ni ei gymryd i'r dwyrain o Afon Iorddonen. Dyma fi'n rhoi'r tir sydd i'r gogledd o Aroer, ar ymyl Ceunant Arnon, a hanner bryniau Gilead i lwythau Reuben a Gad.

13. Wedyn dyma fi'n rhoi gweddill Gilead a teyrnas Og, sef Bashan, i hanner llwyth Manasse. (Roedd ardal Argob i gyd, sef Bashan, yn arfer cael ei alw yn Wlad y Reffaiaid.

14. Dyma Jair o lwyth Manasse, yn cymryd ardal Argob, sef Bashan. Mae'r ardal yn ymestyn at y ffin gyda Geshwr a Maacha. Rhoddodd ei enw ei hun ar yr ardal – Hafoth-jair – a dyna'r enw ar yr ardal hyd heddiw.)

15. “Dyma fi'n rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir, mab Manasse.

16. “Yna i lwythau Reuben a Gad dyma fi'n rhoi'r tir sy'n ymestyn o Gilead i Geunant Arnon (Ceunant Arnon oedd y ffin), ac ymlaen at Wadi Jabboc a ffin Ammon.

17. “Y ffin i'r gorllewin oedd Afon Iorddonen, o Lyn Galilea i lawr i'r Môr Marw gyda llethrau Pisga i'r dwyrain.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 3