Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 24:10-20 beibl.net 2015 (BNET)

10. Wrth fenthyg rhywbeth i rywun, paid mynd i mewn i'w dŷ i hawlio beth mae'n ei gynnig yn warant y gwnaiff ei dalu'n ôl.

11. Dylet ddisgwyl y tu allan, a gadael i'r sawl sy'n benthyg gen ti ddod â'i warant allan.

12. Os ydy e'n dlawd, ddylet ti ddim cymryd ei got, a'i chadw dros nos fel gwystl.

13. Dylet roi'r got yn ôl iddo cyn iddi nosi, iddo gysgu ynddi a gofyn i Dduw dy fendithio. Dyna beth sy'n iawn i'w wneud yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw.

14. Os ydy rhywun gwirioneddol dlawd yn gweithio i chi, peidiwch ei gam-drin a chymryd mantais ohono – sdim ots os ydy e'n un o bobl Israel neu'n rywun o'r tu allan sy'n byw yn eich plith chi.

15. Dylech dalu ei gyflog iddo cyn diwedd y dydd, am ei fod yn dlawd ac angen yr arian i fyw. Os fyddwch chi ddim yn talu iddo bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu.

16. Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau eu plant, na'r plant am droseddau eu rhieni. Dim ond y troseddwr ei hun ddylai farw.

17. Peidiwch gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr neu blant amddifad. A peidiwch cymryd dillad gwraig weddw yn warant ar fenthyciad.

18. Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD wedi'ch gollwng chi'n rhydd. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn i gyd.

19. Pan fyddi'n casglu cynhaeaf dy dir, os byddi wedi gadael ysgub yn y cae, paid mynd yn ôl i'w chasglu. Gadael hi i'r bobl dlawd – mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn bendithio popeth fyddi di'n ei wneud.

20. Pan fyddwch chi'n ysgwyd eich coed olewydd i gasglu'r ffrwyth, peidiwch gwneud hynny ddwywaith. Gadewch beth sydd ar ôl i'r mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 24