Pan fyddi'n casglu cynhaeaf dy dir, os byddi wedi gadael ysgub yn y cae, paid mynd yn ôl i'w chasglu. Gadael hi i'r bobl dlawd – mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn bendithio popeth fyddi di'n ei wneud.