Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 17:2-15 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Os ydych chi'n clywed fod dyn neu ddynes yn un o'ch trefi, yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw drwy dorri amodau'r ymrwymiad

3. – gwneud pethau dw i wedi dweud wrthoch chi am beidio eu gwneud, fel addoli duwiau eraill, neu addoli'r haul, y lleuad neu'r sêr –

4. rhaid i chi ymchwilio'n fanwl i'r mater. Wedyn, os ydy e'n troi allan i fod yn wir fod peth erchyll fel yna yn bendant wedi digwydd yn Israel,

5. rhaid i'r person sydd wedi gwneud y drwg gael ei ddedfrydu gan y llys wrth giatiau'r dref. Yna bydd yn cael ei ladd drwy daflu cerrig ato.

6. Ond rhaid cael dau neu dri o bobl i roi tystiolaeth yn ei erbyn. Dydy gair un tyst ddim yn ddigon i'w brofi'n euog.

7. A'r tystion sydd i ddechrau'r dienyddiad, a pawb arall yn eu dilyn. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith.

8. “Os ydy rhyw achos yn y dref yn rhy anodd i'w farnu – achos o ladd, unrhyw achos cyfreithiol neu ymosodiad – yna ewch â'r achos i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis.

9. Ewch i weld yr offeiriaid o lwyth Lefi a'r un sy'n farnwr bryd hynny a byddan nhw'n penderfynu beth ydy'r ddedfryd.

10-12. A rhaid i chi wneud yn union fel maen nhw'n dweud. Os na wnewch chi fel maen nhw'n dweud, bydd rhaid i chi farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith.

13. Wedyn bydd pobl yn clywed beth ddigwyddodd ac yn dychryn, a fydd neb yn meiddio gwrthryfela felly eto.

14. “Ar ôl i chi goncro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi, a setlo i lawr i fyw yno, byddwch yn penderfynu eich bod eisiau brenin yr un fath â'r gwledydd o'ch cwmpas chi.

15. Dim ond yr un mae'r ARGLWYDD yn ei ddewis sydd i fod yn frenin. A rhaid iddo fod yn un o bobl Israel – peidiwch dewis rhywun o'r tu allan, sydd ddim yn Israeliad.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 17