Roedden nhw o gwmpas y gwersyll i gyd, yn sefyll mewn trefn.Pan oedd milwyr Gideon yn chwythu eu cyrn hwrdd, dyma filwyr y gelyn yn gweiddi mewn panig a cheisio dianc. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw ddechrau ymladd ei gilydd drwy'r gwersyll i gyd.Roedd llawer o'r milwyr wedi dianc i Beth-sitta, sydd ar y ffordd i Serera, ar y ffin gydag Abel-mechola, ger Tabath.