Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 7:13-25 beibl.net 2015 (BNET)

13. Ond pan gyrhaeddodd Gideon ymyl y gwersyll dyma fe'n clywed rhyw ddyn yn dweud wrth ddyn arall am freuddwyd gafodd e. “Ces i freuddwyd am dorth haidd gron yn rholio i lawr i wersyll Midian. Dyma hi'n taro'r babell mor galed nes i'r babell droi drosodd. Syrthiodd yn fflat ar lawr.”

14. Dyma'r llall yn dweud, “Dim ond un peth mae hyn ei olygu – cleddyf Gideon, mab Joas. Mae Duw yn mynd i roi buddugoliaeth iddo dros fyddin Midian.”

15. Dyma Gideon yn plygu i lawr ac addoli Duw ar ôl clywed am y freuddwyd a'r dehongliad ohoni. Yna dyma fe'n mynd yn ôl i wersyll Israel, a dweud, “Gadewch i ni fynd! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i adael i chi drechu byddin Midian.”

16. Dyma Gideon yn rhannu'r tri chant o ddynion yn dair uned filwrol. Yna rhoddodd gorn hwrdd i bawb, a jar gwag gyda fflam yn llosgi tu mewn iddo.

17. “Gwyliwch fi, a gwneud yr un fath â fi,” meddai wrthyn nhw. “Gwyliwch yn ofalus. Pan ddown ni at gyrion gwersyll y Midianiaid, gwnewch yr un fath â fi.

18. Pan fydd fy uned i yn chwythu eu cyrn hwrdd gwnewch chwithau yr un fath o gwmpas y gwersyll i gyd. Yna gweiddi, ‘Dros yr ARGLWYDD a dros Gideon!’”

19. Aeth Gideon â chant o filwyr at gyrion y gwersyll, ychydig ar ôl deg o'r gloch y nos, pan oedd y gwylwyr wedi newid sifft. A dyma nhw'n chwythu'r cyrn hwrdd a torri'r jariau oedd ganddyn nhw.

20. Dyma'r tair uned yn gwneud yr un fath. Roedden nhw'n dal eu ffaglau yn un llaw ac yn chwythu'r corn hwrdd gyda'r llall. Yna dyma nhw'n gweiddi, “I'r gâd dros yr ARGLWYDD a Gideon!”

21-22. Roedden nhw o gwmpas y gwersyll i gyd, yn sefyll mewn trefn.Pan oedd milwyr Gideon yn chwythu eu cyrn hwrdd, dyma filwyr y gelyn yn gweiddi mewn panig a cheisio dianc. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw ddechrau ymladd ei gilydd drwy'r gwersyll i gyd.Roedd llawer o'r milwyr wedi dianc i Beth-sitta, sydd ar y ffordd i Serera, ar y ffin gydag Abel-mechola, ger Tabath.

23. A dyma ddynion o lwythau Nafftali, Asher a Manasse yn mynd ar eu holau.

24. A dyma Gideon yn anfon negeswyr i fryniau Effraim gyda'r neges yma: “Dewch i lawr i ymladd y Midianiaid! Ewch o'u blaenau a'u stopio nhw rhag croesi'r rhydau dros yr Afon Iorddonen yn Beth-bara.” A dyma ddynion Effraim yn dod a gwneud hynny.

25. Dyma nhw'n dal dau o arweinwyr byddin Midian, Oreb a Seeb. Cafodd Oreb ei ladd ganddyn nhw wrth y graig sy'n cael ei hadnabod bellach fel Craig Oreb. A cafodd Seeb ei ladd wrth y gwinwryf sy'n cael ei adnabod bellach fel Gwinwryf Seeb. A dyma nhw'n dod â phen y ddau at Gideon, oedd yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 7