Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 16:5-15 beibl.net 2015 (BNET)

5. Dyma arweinwyr y Philistiaid yn mynd ati, a dweud, “Os gwnei di ei berswadio fe i ddweud wrthot ti pam mae e mor gryf, a sut y gallen ni ei ddal a'i gam-drin, cei di fil a chant o ddarnau arian gan bob un ohonon ni.”

6. Felly dyma Delila yn gofyn i Samson, “Beth sy'n dy wneud di mor gryf? Sut allai rhywun dy rwymo di a dy drechu di?”

7. A dyma Samson yn ateb, “Petawn i'n cael fy rhwymo gyda saith llinyn bwa saeth newydd, byddwn i mor wan ac unrhyw ddyn arall.”

8. Felly dyma arweinwyr y Philistiaid yn rhoi saith llinyn bwa saeth newydd iddi i rwymo Samson gyda nhw.

9. Pan oedd y dynion yn cuddio yn yr ystafell, dyma Delila yn gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” Dyma fe'n torri'r llinynnau bwa fel petaen nhw'n edau oedd wedi bod yn agos i dân. Doedden nhw ddim wedi darganfod y gyfrinach pam oedd e mor gryf.

10. Dyma Delila'n dweud wrth Samson, “Ti'n chwarae triciau ac wedi dweud celwydd wrtho i! Tyrd, dywed wrtho i sut mae rhywun yn gallu dy rwymo di.”

11. A dyma fe'n dweud wrthi, “Petawn i'n cael fy rhwymo gyda rhaffau newydd sbon sydd erioed wedi cael eu defnyddio o'r blaen, byddwn i mor wan ac unrhyw ddyn arall.”

12. Felly dyma Delila yn rhwymo Samson gyda rhaffau newydd sbon. Yna dyma hi'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” (Roedd y Philistiaid yn cuddio yn yr ystafell.) Ond dyma fe'n torri'r rhaffau fel petaen nhw'n ddim ond edau!

13. Dyma Delila'n dweud wrth Samson, “Ti'n gwneud dim byd ond chwarae triciau a dweud celwydd wrtho i! Dywed wrtho i sut mae rhywun yn gallu dy rwymo di.”A dyma fe'n dweud wrthi, “Taset ti'n gweu fy ngwallt i – y saith plethen – i mewn i'r brethyn ar ffrâm wau, a'i gloi gyda'r pin, byddwn i mor wan ac unrhyw ddyn arall.”

14. Felly tra roedd e'n cysgu, dyma hi'n cymryd ei saith plethen e, a'u gweu nhw i mewn i'r brethyn ar y ffrâm wau, a'i gloi gyda pin. Wedyn gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!”Dyma fe'n deffro, ac yn rhwygo'r pin allan o'r ffrâm a'i wallt o'r brethyn.

15. A dyma Delila'n dweud wrtho, “Sut wyt ti'n gallu dweud ‘Dw i'n dy garu di,’ os wyt ti ddim yn trystio fi? Rwyt ti wedi bod yn chwarae triciau dair gwaith ac wedi gwrthod dweud wrtho i beth sy'n dy wneud di mor gryf.”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 16