Pan oedd y dynion yn cuddio yn yr ystafell, dyma Delila yn gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” Dyma fe'n torri'r llinynnau bwa fel petaen nhw'n edau oedd wedi bod yn agos i dân. Doedden nhw ddim wedi darganfod y gyfrinach pam oedd e mor gryf.