Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 14:11-19 beibl.net 2015 (BNET)

11. Pan welodd y Philistiaid Samson dyma nhw'n rhoi tri deg o ffrindiau i gadw cwmni iddo yn y parti.

12. A dyma Samson yn dweud wrthyn nhw, “Gadewch i mi osod pos i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi cyn diwedd y parti mewn wythnos, gwna i roi mantell newydd, a set o ddillad newydd i'r tri deg ohonoch chi.

13. Ond os allwch chi ddim datrys y pos, bydd rhaid i bob un ohonoch chi roi mantell a set o ddillad newydd i mi.”Felly dyma nhw'n dweud wrtho, “Iawn, gad i ni glywed beth ydy dy bos di.”

14. A dyma ddwedodd e:“Daeth bwyd o'r bwytäwr;rhywbeth melys o'r un cryf.”Aeth tri diwrnod heibio a doedden nhw ddim yn gallu meddwl am yr ateb.

15. Y diwrnod wedyn dyma nhw'n mynd at wraig Samson a'i bygwth: “Tricia dy ŵr i ddweud beth ydy'r ateb i'r pos, neu byddwn ni'n dy losgi di a teulu dy dad. Wnest ti'n gwahodd ni yma i'n gwneud ni'n fethdalwyr?”

16. Felly dyma wraig Samson yn mynd ato a dechrau crïo ar ei ysgwydd. “Ti'n fy nghasáu i. Dwyt ti ddim yn fy ngharu i. Ti wedi rhoi pos i rai o'r bechgyn ond dwyt ti ddim wedi dweud wrtho i beth ydy'r ateb.”“Ond dw i ddim hyd yn oed wedi dweud wrth dad a mam. Wyt ti wir yn disgwyl i mi ddweud wrthot ti?”

17. Buodd hi'n crïo ar ei ysgwydd nes oedd y parti bron ar ben. Yna ar y seithfed diwrnod dyma Samson yn dweud yr ateb wrthi am ei bod hi wedi swnian gymaint. A dyma hi'n mynd i ddweud wrth y dynion ifanc.

18. Cyn iddi fachlud y noson honno dyma ddynion y dref yn mynd at Samson a dweud, “Beth sy'n fwy melys na mêl? A beth sy'n gryfach na llew?”A dyma Samson yn dweud, “Fyddech chi ddim wedi datrys y pos heb gymryd mantais o'm gwraig i!”

19. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus. Aeth i Ashcelon a lladd tri deg o ddynion. Cymerodd eu dillad a'u rhoi i'r dynion oedd wedi ateb y pos. Roedd wedi gwylltio'n lân ac aeth adre at ei rieni.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 14