Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 11:16-30 beibl.net 2015 (BNET)

16. Pan ddaethon nhw allan o'r Aifft dyma nhw'n teithio drwy'r anialwch at y Môr Coch ac yna ymlaen i Cadesh.

17. Anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom, yn gofyn, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di?’ Ond dyma frenin Edom yn gwrthod gadael iddyn nhw. Yna dyma Israel yn gofyn yr un peth i frenin Moab ond doedd yntau ddim yn fodlon gadael iddyn nhw groesi. Felly dyma bobl Israel yn aros yn Cadesh.

18. Yna dyma nhw'n mynd rownd Edom a Moab – pasio heibio i'r dwyrain o wlad Moab, a gwersylla yr ochr draw i'r Afon Arnon. Wnaethon nhw ddim croesi tir Moab o gwbl (yr Afon Arnon oedd ffin Moab).

19. “Wedyn dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, a gofyn iddo, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di i ni fynd i'n tir ein hunain?’

20. Ond doedd Sihon ddim yn trystio pobl Israel i adael iddyn nhw groesi ei dir. Felly dyma fe'n galw ei fyddin at ei gilydd a codi gwersyll yn Iahats, i ymosod ar Israel.

21. Ond dyma'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn eu galluogi nhw i drechu Sihon a'i fyddin gyfan. A dyma Israel yn cymryd tiroedd yr Amoriaid i gyd –

22. o'r Afon Arnon yn y de i'r Afon Jabboc yn y gogledd ac o'r anialwch yn y dwyrain i'r Iorddonen yn y gorllewin.

23. “Felly, yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth yrru'r Amoriaid allan o flaen pobl Israel. Pa hawl sydd gen ti i'w gymryd oddi arnyn nhw?

24. Cadw di beth mae dy dduw Chemosh yn ei roi i ti. Dŷn ni am gadw tiroedd y bobloedd mae'r ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'n blaen ni.

25. Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gryfach na Balac fab Sippor, brenin Moab? Wnaeth e fentro ffraeo gyda phobl Israel? Wnaeth e ymladd yn eu herbyn nhw?

26. Mae pobl Israel wedi bod yn byw yn y trefi yma ers tri chan mlynedd – Cheshbon ac Aroer a'r pentrefi o'u cwmpas, a'r trefi sydd wrth Afon Arnon. Pam ydych chi ddim wedi eu cymryd nhw yn ôl cyn hyn?

27. “Dw i ddim wedi gwneud cam â ti. Ti sydd ar fai yn dechrau'r rhyfel yma. Heddiw bydd yr ARGLWYDD, y Barnwr, yn penderfynu pwy sy'n iawn – pobl Israel neu'r Ammoniaid!”

28. Ond wnaeth brenin Ammon gymryd dim sylw o neges Jefftha.

29. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Jefftha. Dyma fe'n mynd â'i fyddin trwy diroedd Gilead a Manasse, pasio trwy Mitspe yn Gilead, ac ymlaen i wynebu byddin yr Ammoniaid.

30. Dyma Jefftha yn addo ar lw i'r ARGLWYDD, “Os gwnei di adael i mi guro byddin yr Ammoniaid,

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 11