Yna dyma nhw'n mynd rownd Edom a Moab – pasio heibio i'r dwyrain o wlad Moab, a gwersylla yr ochr draw i'r Afon Arnon. Wnaethon nhw ddim croesi tir Moab o gwbl (yr Afon Arnon oedd ffin Moab).