Hen Destament

Testament Newydd

Amos 9:11-15 beibl.net 2015 (BNET)

11. Ar y diwrnod hwnnw, bydda i'n ailsefydluteyrnas Dafydd sydd wedi syrthio.Bydda i'n trwsio'r bylchau ynddo ac yn adeiladu ei adfeilion.Bydda i'n ei adfer i fod fel yr oedd yn yr hen ddyddiau.

12. Byddan nhw'n cymryd meddiant etoo'r hyn sydd ar ôl o wlad Edom,a'r holl wledydd eraill oedd yn perthyn i mi,”—meddai'r ARGLWYDD, sy'n mynd i wneud hyn i gyd.

13. “Gwyliwch chi!” meddai'r ARGLWYDD, “Mae'r amser yn dod,pan fydd cymaint o gnwd, bydd hi'n amser aredig etocyn i'r cynhaeaf i gyd gael ei gasglu!A bydd cymaint o rawnwin, byddan nhw'n dal i'w sathrupan fydd yr amser wedi dod i hau'r had eto.Bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedda bydd yn llifo i lawr y bryniau.

14. Bydda i'n dod â'm pobl Israel yn ôl i'w gwlad.Byddan nhw'n ailadeiladu'r trefi sy'n adfeilion,ac yn cael byw ynddyn nhw unwaith eto.Byddan nhw'n plannu gwinllannoedd ac yn yfed y gwin.Byddan nhw'n trin eu gerddi ac yn bwyta'r ffrwythau.

15. Bydda i'n plannu fy mhobl yn eu tir eu hunain,a fydd neb yn eu diwreiddio nhwo'r wlad dw i wedi ei rhoi iddyn nhw.”—yr ARGLWYDD, eich Duw chi, sy'n dweud hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 9