Hen Destament

Testament Newydd

Amos 2:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Moab wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi cymryd esgyrn brenin Edoma'u llosgi nhw'n galch.

2. Felly bydda i'n anfon tân i losgi Moab,a dinistrio caerau amddiffynnol Cerioth.Bydd pobl Moab yn marw yn sŵn y brwydro,yng nghanol y bloeddio a sŵn y corn hwrdd yn seinio.

3. Bydda i'n cael gwared â'i brenin hiac yn lladd ei holl swyddogion gydag e.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

4. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Jwda wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi troi eu cefnau ar gyfraith yr ARGLWYDD,a heb gadw ei orchmynion e.Maen nhw'n cael eu harwain ar gyfeiliorngan y duwiau ffals oedd eu hynafiaid yn eu dilyn.

5. Felly bydda i'n anfon tân i losgi Jwda,a dinistrio caerau amddiffynnol Jerwsalem.”

6. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Israel wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw'n gwerthu'r dieuog am arian,a'r rhai mewn dyled am bâr o sandalau! –

7. sathru'r tlawd fel baw ar lawr,a gwthio'r gwan o'r ffordd!Ac mae dyn a'i dad yn cael rhyw gyda'r un gaethferch,ac yn amharchu fy enw glân i wrth wneud y fath beth.

8. Maen nhw'n gorwedd wrth ymyl yr allorauar ddillad sydd wedi eu cadw'n warant am ddyled.Maen nhw'n yfed gwin yn nheml Duw –gwin wedi ei brynu gyda'r dirwyon roeson nhw i bobl!

9. Ac eto, fi wnaeth ddinistrio'r Amoriaid o flaen eich hynafiaid chi! –yr Amoriaid oedd yn dal fel cedrwydd ac yn gryf fel coed derw.Ond dyma fi'n eu torri nhw i lawr yn llwyr,o'u brigau uchaf i'w gwreiddiau!

10. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aiffta'ch arwain chi drwy'r anialwch am bedwar deg o flynyddoedd,ac yna rhoi tir yr Amoriaid i chi!

Darllenwch bennod gyflawn Amos 2