Hen Destament

Testament Newydd

Amos 1:4-14 beibl.net 2015 (BNET)

4. Felly bydda i'n llosgi'r palas gododd y brenin Hasael,a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.

5. Bydda i'n dryllio barrau giatiau Damascus,yn cael gwared â'r un sy'n llywodraethu ar Ddyffryn Afen,a'r un sy'n teyrnasu yn Beth-eden.Bydd pobl Syria yn cael eu cymryd yn gaeth i ardal Cir.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

6. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Gasa wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi cymryd pentrefi cyfan yn gaeth,a'u gwerthu nhw i wlad Edom,

7. Felly bydda i'n llosgi waliau Gasa,a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol.

8. Bydda i'n cael gwared â'r un sy'n llywodraethu yn ninas Ashdoda'r un sy'n teyrnasu yn Ashcelon.Bydda i'n ymosod ar ddinas Ecron,nes bydd neb o'r Philistiaid ar ôl yn fyw!”—fy Meistr, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.

9. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Tyrus wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi torri'r cytundeb gyda'i brodyrdrwy gymryd pentrefi cyfan yn gaeth,a'u gwerthu nhw i wlad Edom,

10. Felly bydda i'n llosgi waliau Tyrus,a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol.”

11. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Edom wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi ymosod ar eu brodyr gyda'r cleddyfa dangos dim trugaredd atyn nhw.Am iddyn nhw ddal ati i ymosod yn wylltheb stopio'r trais o gwbl,

12. dw i'n mynd i anfon tân i losgi Teman,a dinistrio caerau amddiffynnol Bosra.”

13. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae pobl Ammon wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi rhwygo a lladd gwragedd beichiog Gileader mwyn ennill mwy o dir iddyn nhw eu hunain.

14. Felly bydda i'n llosgi waliau Rabba,a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol.Yng nghanol y bloeddio ar ddydd y frwydr,pan fydd yr ymladd yn ffyrnig fel storm,

Darllenwch bennod gyflawn Amos 1