Ond roedd rhyw fachgen ifanc wedi eu gweld nhw, a mynd i ddweud wrth Absalom. Felly dyma'r ddau yn gadael ar frys a mynd i dŷ rhyw ddyn yn Bachwrîm. Roedd gan hwnnw bydew yn ei fuarth, a dyma nhw'n dringo i lawr i'r pydew.