Roedd Jonathan ac Achimaats (meibion yr offeiriaid) yn aros yn En-rogel. Felly byddai morwyn yn mynd â negeseuon iddyn nhw, a hwythau wedyn yn mynd â'r negeseuon ymlaen i'r brenin Dafydd. (Doedd wiw iddyn nhw gael eu gweld yn mynd i mewn i Jerwsalem.)