Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 15:12-20 beibl.net 2015 (BNET)

12. Yna dyma Absalom yn cael Achitoffel, swyddog strategaeth Dafydd, i ddod ato o Gilo (y dre lle roedd e'n byw) i gyflwyno aberthau gydag e. Roedd y cynllwyn yn cryfhau, a nifer y bobl oedd o blaid Absalom yn cynyddu.

13. Daeth neges at Dafydd i ddweud fod pobl Israel wedi troi at Absalom.

14. Felly dyma Dafydd yn dweud wrth ei swyddogion yn Jerwsalem, “Rhaid i ni ffoi, neu wnawn ni ddim dianc oddi wrth Absalom. Dewch! Brysiwch i ni adael, rhag iddo'n dal ni a lladd pawb yn y ddinas!”

15. Dyma'r swyddogion yn ateb, “Bydd dy weision yn gwneud beth bynnag mae ein meistr, y brenin, yn ei benderfynu.”

16. Felly dyma'r brenin yn gadael, a'i deulu a'i staff i gyd gydag e. Ond gadawodd ddeg o'i gariadon i edrych ar ôl y palas.

17. Wrth iddo fynd, a'r bobl i gyd yn ei ddilyn, dyma nhw'n aros wrth y Tŷ Pellaf.

18. Safodd yno tra roedd ei warchodlu i gyd yn mynd heibio (Cretiaid a Pelethiaid) a'r chwe chant o ddynion oedd wedi ei ddilyn o Gath. Wrth iddyn nhw fynd heibio

19. dyma'r brenin yn galw ar Itai (oedd o Gath), “Pam ddylet ti ddod gyda ni? Dos yn ôl ac aros gyda'r brenin newydd. Un o'r tu allan wyt ti, yn alltud ac yn bell oddi cartref.

20. Dim ond newydd gyrraedd wyt ti. Alla i ddim gwneud i ti grwydro o le i le ar fy ôl i! Dos yn ôl, a dos â dy bobl gyda ti. A boed i'r Duw ffyddlon dy amddiffyn di.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 15