Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 14:18-33 beibl.net 2015 (BNET)

18. A dyma'r brenin Dafydd yn ateb, “Dw i eisiau gwybod un peth. Paid cuddio dim oddi wrtho i.” “Gofyn, syr,” meddai'r wraig.

19. “Ai Joab sydd wedi dy gael i wneud hyn?” meddai. A dyma'r wraig yn ateb, “Ie, alla i ddim gwadu'r peth syr. Joab drefnodd y cwbl, a dweud wrtho i beth i'w ddweud.

20. Roedd e eisiau i ti edrych ar y sefyllfa o safbwynt gwahanol. Ond rwyt ti, syr, fel angel Dduw. Ti'n deall popeth sy'n digwydd yn y wlad.”

21. Yna dyma'r brenin yn galw Joab, “O'r gorau! Dyna wna i. Dos i nôl y bachgen Absalom.”

22. Dyma Joab yn ymgrymu â'i wyneb ar lawr o flaen y brenin, a diolch iddo. Meddai wrtho, “Heddiw dw i'n gwybod fod gen ti ffydd yno i, dy was. Ti wedi caniatáu fy nghais i.”

23. Felly dyma Joab yn mynd i lawr i Geshwr a dod ag Absalom yn ôl i Jerwsalem.

24. Ond roedd y brenin wedi dweud, “Rhaid iddo fynd i'w dŷ ei hun. Gaiff e ddim fy ngweld i.” Felly dyma Absalom yn mynd i'w dŷ ei hun, heb gael gweld y brenin.

25. Roedd Absalom yn cael ei ystyried y dyn mwyaf golygus yn Israel. Dyn cryf, iach, gyda'r corff perffaith.

26. Roedd yn arfer torri ei wallt yn fyr bob blwyddyn am fod ei wallt wedi tyfu mor drwchus. Ar ôl torri ei wallt byddai'n ei bwyso, ac roedd dros ddau gilogram (yn ôl y safon brenhinol).

27. Roedd gan Absalom dri mab ac un ferch. Enw'r ferch oedd Tamar, ac roedd hi'n ferch arbennig o hardd.

28. Roedd Absalom wedi bod yn Jerwsalem am ddwy flynedd heb gael gweld y brenin,

29. a dyma fe'n anfon neges at Joab i geisio'i gael i drefnu iddo gael gweld y brenin. Ond roedd Joab yn gwrthod mynd ato. Dyma fe'n anfon amdano eto, ond roedd Joab yn dal i wrthod mynd.

30. Felly dyma Absalom yn dweud wrth ei weision, “Mae gan Joab gae o haidd nesa at fy nhir i. Ewch i'w roi ar dân.” A dyma weision Absalom yn gwneud hynny.

31. Aeth Joab ar ei union i dŷ Absalom. “Pam mae dy weision di wedi rhoi fy nghae i ar dân?” meddai.

32. A dyma Absalom yn ateb, “Edrych, gwnes i anfon neges atat ti am fy mod eisiau i ti fynd at y brenin, a gofyn iddo pam wnaeth e ddod â fi yn ôl o Geshwr os nad oedd e eisiau fy ngweld i. Byddai wedi bod yn well i mi aros yno! Nawr, dw i eisiau gweld y brenin. Os ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le, gad iddo fy lladd i!”

33. A dyma Joab yn mynd at y brenin a dweud hynny wrtho.Felly dyma'r brenin yn galw am Absalom, a dyma Absalom yn dod ato ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. A dyma'r brenin yn ei gyfarch gyda chusan.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 14