A dyma Joab yn mynd at y brenin a dweud hynny wrtho.Felly dyma'r brenin yn galw am Absalom, a dyma Absalom yn dod ato ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. A dyma'r brenin yn ei gyfarch gyda chusan.