Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 28:17-27 beibl.net 2015 (BNET)

17. Roedd byddin Edom wedi ymosod ar Jwda unwaith eto a chymryd pobl yn gaeth.

18. Roedd y Philistiaid hefyd wedi bod yn ymosod ar drefi Jwda yn yr iseldir a'r Negef. Roedden nhw wedi concro a setlo yn Beth-shemesh, Aialon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a'r pentrefi o'u cwmpas.

19. Roedd yr ARGLWYDD yn dysgu gwers i Jwda am fod Ahas yn anffyddlon i'r ARGLWYDD ac wedi gadael i bethau fynd allan o reolaeth yn llwyr.

20. Daeth Tiglath-pileser brenin Asyria ato, ond gwnaeth bethau'n waeth iddo yn lle ei helpu.

21. Cymerodd Ahas drysorau o'r deml, y palas, ac o dai ei swyddogion a rhoi'r cwbl i frenin Asyria. Ond wnaeth hynny ddim ei helpu e.

22. Drwy'r holl drafferthion i gyd roedd Ahas yn mynd o ddrwg i waeth, ac yn fwy anffyddlon nac erioed.

23. Dechreuodd aberthu i dduwiau Damascus oedd wedi ei orchfygu. Roedd yn meddwl, “Gwnaeth duwiau Syria eu helpu nhw. Os gwna i aberthu iddyn nhw, falle y gwnân nhw fy helpu i.” Ond achosodd hynny ei gwymp e a Jwda gyfan.

24. Dyma Ahas yn casglu holl lestri'r deml a'u malu'n ddarnau. Yna dyma fe'n cau drysau teml yr ARGLWYDD a chodi allorau paganaidd ar gornel pob stryd yn Jerwsalem.

25. Cododd allorau lleol ym mhob tref yn Jwda i losgi arogldarth i dduwiau eraill. Roedd yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, wedi gwylltio'n lân gydag e.

26. Mae gweddill hanes Ahas, a'r hyn wnaeth e, o'r dechrau i'r diwedd, i'w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Jwda ac Israel.

27. Pan fuodd Ahas farw, dyma nhw'n ei gladdu gyda'i hynafiaid yn y ddinas, sef Jerwsalem. Wnaethon nhw ddim ei osod ym mynwent brenhinoedd Israel. A dyma Heseceia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 28