Roedd y Philistiaid hefyd wedi bod yn ymosod ar drefi Jwda yn yr iseldir a'r Negef. Roedden nhw wedi concro a setlo yn Beth-shemesh, Aialon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a'r pentrefi o'u cwmpas.