Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 2:10-18 beibl.net 2015 (BNET)

10. Gwna i dalu i dy weision di am dorri'r coed – dwy fil o dunelli o wenith, dwy fil o dunelli o haidd, cant dau ddeg mil o alwyni o win, a cant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd.”

11. Dyma Huram, brenin Tyrus yn anfon llythyr yn ôl at Solomon, yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD wedi dy wneud di'n frenin ar ei bobl am ei fod yn eu caru nhw.”

12. Dwedodd hefyd, “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr un wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear! Mae wedi rhoi mab doeth i Dafydd – mab llawn dirnadaeth a deall. Bydd yn adeiladu teml i'r ARGLWYDD, a palas brenhinol iddo'i hun.

13. Dw i'n mynd i anfon crefftwr sy'n feistr yn ei waith atat ti, sef Huram-afi.

14. Mae ei fam yn dod o lwyth Dan, ond ei dad o Tyrus. Mae e'n gallu gweithio gydag aur, arian, pres, haearn, carreg a choed, a hefyd lliain main porffor, glas a coch. Mae'n gallu cerfio unrhyw gynllun sy'n cael ei roi iddo. Gall e weithio gyda dy grefftwyr di a'r rhai ddewisodd Dafydd dy dad.

15. Felly anfon y gwenith, haidd, olew olewydd a'r gwin rwyt ti wedi ei addo i ni,

16. a gwnawn ni ddarparu'r holl goed sydd gen ti ei angen o Libanus, a'i anfon dros y môr ar rafftiau i Jopa. Gelli di wedyn drefnu i symud y cwbl i Jerwsalem.”

17. Dyma Solomon yn cynnal cyfrifiad o'r holl fewnfudwyr oedd yn byw yn Israel, yn dilyn y cyfrifiad roedd Dafydd ei dad wedi ei gynnal. Roedd yna 153,600 i gyd.

18. Dyma fe'n gwneud 70,000 ohonyn nhw yn labrwyr, 80,000 i weithio yn y chwareli yn y bryniau, a 3,600 ohonyn nhw yn arolygwyr i wneud yn siŵr fod y gwaith i gyd yn cael ei wneud.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 2