Dwedodd hefyd, “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr un wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear! Mae wedi rhoi mab doeth i Dafydd – mab llawn dirnadaeth a deall. Bydd yn adeiladu teml i'r ARGLWYDD, a palas brenhinol iddo'i hun.