Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 12:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oedd teyrnas Rehoboam wedi ei sefydlu a'i chryfhau, dyma fe a pobl Jwda i gyd yn troi cefn ar gyfraith yr ARGLWYDD.

2. Felly, yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem. Roedden nhw wedi bod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD.

3. Roedd gan Shishac 1,200 o gerbydau rhyfel, 60,000 o farchogion, a gormod o filwyr i'w cyfrif! Roedden nhw wedi dod gydag e o'r Aifft, ac yn cynnwys milwyr o Libia, Swccoth ac Affrica.

4. Dyma fe'n concro trefi amddiffynnol Jwda ac yn mynd i ymosod ar Jerwsalem.

5. Roedd Rehoboam ac arweinwyr Jwda wedi dod at ei gilydd i Jerwsalem o achos ymosodiaid Shishac. Dyma'r proffwyd Shemaia yn mynd atyn nhw a dweud wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi troi cefn arna i, dw i wedi troi cefn arnoch chi. Dw i'n mynd i adael i Shishac eich dal chi.’”

6. Yna dyma arweinwyr Israel a'r brenin yn cyfaddef eu bai a dweud, “Mae'r ARGLWYDD yn iawn.”

7. Pan welodd yr ARGLWYDD eu bod nhw wedi syrthio ar eu bai, dyma fe'n rhoi'r neges yma i Shemaia: “Am eu bod wedi syrthio ar eu bai wna i ddim eu dinistrio nhw. Cân nhw eu hachub yn fuan. Dw i ddim yn mynd i ddefnyddio Shishac i dywallt fy llid ar Jerwsalem.

8. Ond er hynny bydd rhaid iddyn nhw fod yn weision iddo, a byddan nhw'n dod i ddeall y gwahaniaeth rhwng fy ngwasanaethu i a gwasanaethu teyrnasoedd y byd.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 12